MAstars 2014: Kate Haywood, MA Cerameg

MAstars 2014: Kate Haywood, MA Cerameg Kate Haywood, Gavotte, 2014. Porslen, cotwm, sidan, dur, deilen aur. 64cm x 46cm x 3cm. Credyd: Kate Haywood

Mae Paul Wearing yn dewis Kate Haywood o Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd ar gyfer MAstars

English


Wedi ei grogi o fewn gofod petryalog tair wal, wedi ei hyfhau gan wal ganolog o liw glas canolig cryf, roedd cyfosodiadau cerameg a thecstil Kate Haywood, yn cyfeirio at syniadau a gwrthrychau o ddefod ac addurn mewn diwylliannau amrywiol, wedi eu curadu’n alluog. Gellir eu gweld naill ai fel darnau unigol neu fel cyfanwaith: roedd y berthynas a’r dialog rhwng y cyfosodiadau unigol yn annof y gwyliwr i sefyll yn ôl a gweld y gwaith celf yn ei gyfanrwydd, tra bod cymhlethdod a manylder pob darn yn galw am archwiliad agosach.

Mae sylfaeni Kate yn dylunio gemwaith yn Central Saint Martins a cerameg yn Camberwell a Chaerdydd wedi ei darparu a chydbwysedd da o sgiliau a phrofiad o weithio gydag amrywiaeth o ddeunyddiau. Gan ddefnyddio tecstilau yn ogystal â cerameg, mae’n cyfuno lliw cyfyngedig ond eofn gyda gweadau, arwynebeddau ac ymylon i greu effaith: Mae’r llygaid yn cael ei ddenu ar draws pob darn, a’i annog i ddilyn ac oedi ar fanylion pwythi manwl, marc penodol neu ymyl afreolaidd.

Kate Haywood Kolo

Kate Haywood, Kolo, 2014. Porslen, cotwm. 200cm x 64cm x 11cm. Credyd: Kate Haywood

Mae trefniant o nifero ddarnau bach sy’n debyg o ran ffurf ond yn amrywio o ran manylder i hoelio’r llygad a sylw ac yn ymddangos i fod bron yn fyfyriol yn eu dilyniannu. Mae dosbarthiadau eraill o ddarnau bach, yn amrywio o ran ffurf, yn datgelu perthynas fwy deinamig, Mae’n cyfleu naws o’r broses greadigol, yr archwiliad a’r cwestiynau a holwyd a’r darganfyddiadau a wnaed.

Dywed Kate am ei gwaith ei bod yn ‘gwasanaethu fel haiku gweledol’ ac y defnyddir ‘economi manwl o ddeunydd ac iaith drosiadol’. Y cydbwysedd cyfrwys, anodd ei gyflawni hwn o sgil a sensitifrwydd i’r deunydd a’r testun sydd mewn gwirionedd yn farddol, hardd a dengar. Fe ysgogwyd fy nghyffro, chwilfrydedd a dychymyg gan wrthrychau oedd yn gyfarwydd ac eto’n estron, wrth i gyfeiriadau amwys ganiatáu i’r gwyliwr ddod a’i brofiadau ei hun i’r profiad ac i archwilio’r arwyddocâd ac ystyr awgrymedig.

Kate Haywood Volta

Kate Haywood, Volta, 2014. Porslen, gwlân. 170cm x 16cm x 4cm. Credyd: Kate Haywood

Effaith profi’r gwaith hwn yw mwyhau ymwybyddiaeth o berthynas y corff gydag addurn a defod, Mae Haywood wedi creu casgliad o wrthrychau sy’n oriog mewn cysylltiadau ac ystyr.

Dewiswch gan Paul Wearing
Cyhoeddwyd Hydref, 2014

Gweld proffil Kate Haywood >


Ynglŷn â Paul Wearing

Mae Paul Wearing yn artist wedi ei leoli yn Fireworks Clay Studios yng Nghaerdydd. Mae wedi bod yn aelod yno ers saith mlynedd ac wedi dal swyddi Cadeirydd a Chyfarwyddwr y sefydliad cydweithredol rhwng 2008 a 2013. Fel artist cerameg, mae ganddo raddau BA ac MA gan Gaerdydd, mae wedi derbyn grant sefydlu gan Gyngor Celfyddydau Cymru, wedi ennill Artist y Flwyddyn Cymru ac wedi arddangos yn helaeth ledled y Deyrnas Unedig. Yn ogystal â’i ymarfer cerameg, mae’n guradur profiadol ac roedd yn gyd-sylfaenydd a chyd gyfarwyddwr Oriel a Stiwdio elements. Yn 2014, derbyniodd Paul grant pellach gan Gyngor Celfyddydau Cymru i ddatblygu ei ymarfer proffesiynol creadigol.


Mwy o wybodaeth

fireworksclaystudios.org
cardiff-school-of-art-and-design.org