Yng Nghefn yr Amgueddfa: Arlunwyr mewn Casgliadau

Yng Nghefn yr Amgueddfa: Arlunwyr mewn Casgliadau Helen Snell, Liferaft Goggles, 2012

Ymunwch â ni ar ddydd Mercher 14 Mai 2014, yn Amgueddfa Cymru, Caerdydd er mwyn archwilio dulliau diddorol y gall arlunwyr eu defnyddio i weithio gyda chasgliadau amgueddfa.

English


Yng Nghefn yr Amgueddfa: Arlunwyr mewn Casgliadau
10yb – 4.30yp, Dydd Mercher 14 Mai, 2014
Amgueddfa Cymru
Theatr Reardon Smith, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NP

Mae’r symposiwm hwn, sy’n para am ddiwrnod, ar gyfer arlunwyr, curaduron a gweithwyr amgueddfa proffesiynol, yn edrych ar sut y gall arlunwyr weithio gyda chasgliadau amgueddfa er mwyn estyn a gwella ymarfer arlunwyr ac archwilio casgliadau mewn dulliau newydd a diddorol.

Gall arlunwyr chwarae rhan hanfodol o ran adfywio casgliadau a meddwl mewn ffordd wahanol ynghylch eu hystyron a beth y gallent ei gynnig i gyfran eang ac amrywiol o’r cyhoedd. Fwyfwy, mae’r gwaith a wnânt mewn amgueddfeydd yn newid sut yr ymdrinnir â chasgliadau, wrth iddynt gynnwys cyfranogwyr a chwilio am ffyrdd i wneud casgliadau’n haws i’w deall a’u dehongli. Mae’n bosibl y bydd gallu llygad creadigol yr arlunydd i dorri’n rhydd o ddehongliadau sefydledig yn medru agor y drws i ddehongliad mwy rhyngweithiol a hyblyg o wrthrychau gan weithredu fel arf grymus i ennyn diddordeb cynulleidfa.

Bydd y diwrnod yn edrych ar brosiectau diddorol a’r technolegau a ddefnyddir er mwyn rhoi bywyd newydd i gasgliadau. Bydd hefyd yn cynnig cyngor ymarferol ynghylch gweithio’n gydweithrediadol, brocera partneriaethau a ffynonellau cyllid.

Bydd y digwyddiad yn cynnwys:

  • James Putnam, curadur ac awdur, a fydd yn trafod newidiadau yn nulliau arlunwyr o weithio gyda chasgliadau amgueddfa a’u rôl nhw yn y gwaith o ennyn diddordeb.
  • Andrew Renton, Pennaeth Celfyddyd Gymhwysol yn Amgueddfa Cymru, yn sgwrsio gyda’r arlunydd Sarah Younan am eu cydweithrediad a beth sydd gan arlunwyr i’w gynnig i’r gwaith o ddehongli casgliadau.
  • Jon Monaghan, arlunydd ac animeiddiwr, yn arwain gweithdy ar argraffu 3d fel arf er mwyn creu cynnwys wedi’i gynhyrchu gan ddefnyddwyr.
  • Yr arlunydd Helen Snell, yn siarad am gydweithredu a sut beth yw gweithio mewn ‘sefydliad’ amgueddfa.
  • Emma Price, ymgynghorydd celfyddyd annibynnol, sy’n cynnig cyngor ymarferol ynghylch datblygu prosiectau sy’n defnyddio casgliadau amgueddfa.

Gallwch ddod i’r digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim ond mae lleoedd yn gyfyngedig felly mae archebu’n hanfodol

Archebwch nawr

Am fwy o wybodaeth cysylltwch ag Alicia Miller, Cydymaith Axisweb yng Nghymru: [email protected]

Symposiwm gan Axisweb, mewn partneriaeth ag Amgueddfa Cymru ac wedi’i noddi gan Gyngor y Celfyddydau Cymru

 Arts Council of Wales logoWelsh Assembly GovernmentArts Council of Wales Lottery Funded logo