Mae cael eich traed danoch yn haws os yw rhywun yn rhoi help llaw chi

Mae cael eich traed danoch yn haws os yw rhywun yn rhoi help llaw chi Freddy Griffiths, from Illustrated Regional Guides to Scotland and Wales, 2014

Mae Alicia Miller, ein Cydymaith yng Nghymru, yn trafod rhai o’r rhaglenni ysbrydoledig sy’n cynnal arlunwyr sydd ar fin dod i’r amlwg yng Nghymru

English


Rhyw bythefnos yn ôl, euthum i Dŷ Turner i weld At Home He's a Tourist, rhan o Wish You Were Here 2014 gan Ffotogallery. Cyfres yw hon o arddangosfeydd byr y mae Ffotogallery’n eu trefnu bob tair blynedd er mwyn rhoi sylw i ddoniau sydd ar fin dod i’r amlwg mewn cyfryngau seiliedig ar lens yma yng Nghymru. Mae cael oriel sefydledig sy’n dangos gwaith gan arlunwyr sydd ar fin dod i’r amlwg yn ffordd bwysig o gynnal y rheiny sy’n datblygu eu gwaith a’u gyrfa. Y dilysiad annibynnol hwn gan guradur, gofod oriel neu sefydliad comisiynu uchel eu parch sydd , yn ôl y ddihareb, yn cadw olwynion y byd celf yn troi. Mae’n gam cyntaf hanfodol i mewn i’r byd proffesiynol ar gyfer arlunwyr ar ddechrau eu gyrfa.

Un o’r arlunwyr yn At Home He's a Tourist oedd Freddy Griffiths. Bûm yn gyfarwydd â gwaith Freddy ers i mi ei weld yn ei sioe MA yn 2012 yn Met. Abertawe. Deuthum i ‘nabod Freddy pan gafodd ei ddewis ar gyfer rhaglen Axisweb Out and Beyond, a fu’n cynnal pump o raddedigion diweddar o raglenni MA yng Nghymru wrth iddynt ddatblygu eu hymarfer yn ystod y flwyddyn hollbwysig honno ar ôl graddio, pryd fyddwch yn dod allan o’r gymuned academaidd sydd rhywfaint yn gysgodol ac i mewn i’r byd celf cyfoes ehangach. Parodd Out and Beyond yr arlunwyr hyn – gan gynnwys yn ogystal Phil Lambert, Shaun James, Ian Wilkins a Megan Wyatt – gyda churaduron o sefydliadau celf ledled Cymru ar gyfer mentora un ac un a chyngor cyffredinol ynghylch y byd celf a sut mae’n gweithio. Hefyd, aethom â’r cyfranogion i Biennial Lerpwl ac i fyny i Lundain i weld ystod o orielau masnachol a chyfarfod â rhai o’r bobl sy’n ymwneud â nhw. A chynaliasom ddau sesiwn beirniadaeth gan gymheiriaid gyda’r curadur annibynnol Gill Hedley, a roddodd gyngor amhrisiadwy ar gyfnodau hyfforddi i arlunwyr a chysylltiadau o fewn orielau.

Gweithiodd Freddy gyda David Drake a Helen Warburton yn Ffotogallery. Nid oedd ei flwyddyn ar ôl graddio’n un hawdd o ran ymarfer. Symudodd i Nottingham a dechreuodd weithio yn Oriel Gelf Djanogly, ond parhaodd i dreulio amser yn Abertawe, tref ei febyd. Nid oedd yn siŵr i ble roedd e’n mynd gyda’i ffotograffiaeth a ph’un ai y byddai’n parhau i weithio yn y cyfrwng a ddefnyddiodd i wneud ei MA. Rhoddodd cyfranogi yn Wish You Were Here ysgogiad clir – rhywbeth i weithio tuag ato – a bu sgyrsiau gyda Helen Warburton yn gymorth i hogi ei ffordd o feddwl o amgylch y gwaith. Roedd beth a gynhyrchodd yn amlwg yn nodi cyfeiriad newydd i Freddy, wrth barhau i gadw ei ddiddordeb soffistigedig mewn cwestiynau ynghylch portread mewn ffotograffiaeth fel cynsail. Mae’r gwaith yn eglur ac yn feddylgar. Gan dynnu cyfres o 'Illustrated Regional Guides to Scotland and Wales' ar led, mae’n datod sut mae’r gyfres yn portreadu lle ac yn ein gwahodd i ystyried ei hadeiladwaith. Mae’r ffotograffau o ffotograffau yn fath o ffenestr ddrych ar y real, gan adlewyrchu delwedd yn ôl arnom ni o beth y credwn rydym yn ei weld.

Mae cynnal gwaith arlunwyr ar ddechrau eu gyrfa fel rheol yn syrthio ar ysgwyddau cydweithfeydd arlunwyr a gofodau lleol ar raddfa fach ac maent yn gwneud gwaith pwysig wrth ddenu sylw i arlunwyr anadnabyddus. Ond mae gan sefydliadau ar raddfa ganolig a mwy sefydledig ran i’w chwarae hefyd yn y gwaith o adnabod a chynnal arlunwyr mewn cam cynnar yn eu datblygiad. Mae Cymru’n hynod ffodus bod ganddi nifer o orielau ledled y wlad sy’n rhoi lle i arlunwyr sydd ar fin dod i’r amlwg – Oriel 6 Mostyn, gofod Test Bed Oriel Davies, gofod [...] Oriel Mission, ymysg eraill. Mae Ysbrydoli... strategaeth ddrafft newydd Cyngor Celfyddydau Cymru yn parhau i gynnal ymarfer arlunwyr yn uniongyrchol drwy’r gwobrwyon Cymru Greadigol a grantiau bach a mawr ar gyfer Y a D a hyfforddi.

Mae cynnal arlunwyr ar ddechrau eu gyrfa’n gofyn am ddulliau newydd dewr o feddwl. Roedd creu aelodaeth ‘Dechrau Gyrfa’ newydd yn Axisweb yn rhan o gydnabod budd proffil Axisweb i arlunwyr yn y flwyddyn olaf o’r brifysgol neu newydd raddio, ac roedd sicrhau ei fod yn hawdd i’w fforddio (dim ond £15 y flwyddyn) yn hanfodol. Mae dwy raglen adnodd arlunwyr nawr yng Nghymru, y gall arlunwyr ar ddechrau eu gyrfa eu defnyddio - rhaglen hirsefydlog g39 WARP a rhaglen PrawN yn Wrecsam sydd newydd gychwyn, a gychwynnwyd gan Jemma Bailey a James Harper. Arlunwyr sydd wrth galon y ddwy raglen sy’n cynnig mentora a chyngor a hwyluso trafodaeth feirniadol rhwng arlunwyr, rhai sydd ar fin dod i’r amlwg a rhai sefydledig. Mae arlunwyr yn gweithio’n ddigon caled i lunio eu gwaith a threfnu iddo gael ei weld - mae rhoi rhyw hwb bach i fyny iddynt ar y dechrau yn talu ar ei ganfed.

I gau, llongyfarchiadau mawr i Sean Edwards am ennill y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain yn yr Eisteddfod eleni gyda’i ffilm Maelfa. Bu Sean, sy’n rhedeg WARP, yn gweithio’n egnïol ers blynyddoedd wrth gynnal arlunwyr yng Nghymru trwy ddatblygu ystod greadigol o raglennu datblygiad proffesiynol i arlunwyr. Mae ei ymarfer celfyddydol eithriadol o greadigol a chyfoethog yn bendant yn ddyfeisgar iawn a chaiff hyn ei adlewyrchu gan ei waith yn WARP. Mae hefyd yn enghraifft wych o sut gall ein rhwydweithiau cartref i gynnal arlunwyr feithrin a datblygu gyrfa arlunydd – roedd yn dderbynnydd Gwobr Cymru Greadigol 2010 – 11 ac mae wedi arddangos yn eang yng Nghymru yn ogystal â ledled y DU ac yn rhyngwladol. Mi gredaf y byddwn yn ei weld yn Venice yn y dyfodol agos.

Alicia Miller, Awst 2014

 


 

Cynnwys cysylltiedig ar Axisweb

Mid-career artist survey findings >

Previous Notes from Wales >