Artes Mundi Pump
Ares Mundi 5, Phil Collins, free fotolab, 2009
Alicia Miller reviews Artes Mundi 5 in Cardiff
Agorodd arddangosfa Artes Mundi ychydig wythnosau yn ôl yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd, am y pumed tro ers ei sefydlu yn 2003. Er mai 'biennale' ydyw yn y bôn, yn annhebyg i arddangosfeydd eraill o'r fath, nid yw'n ymdebygu i syrcas enfawr yn dod i'r dref - sydd wedi'i gwasgaru ar draws nifer o leoliadau mewn dinas ac sy'n aml yn rhy fawr i'w churadu, er yr honnir y gwneir hynny. Mae Artes Mundi yn well o'r herwydd, gan osgoi'r sioe rwysgfawr o blaid rhywbeth mwy cartrefol ag iddo ffocws.
Caiff ei chynnal mewn un prif leoliad, gyda dim ond llond llaw o weithiau celf yn cael eu harddangos ar hyd a lled y ddinas—carafanau Phil Collins y tu allan i'r Chapter, gyda digwyddiadau a pherfformiadau'n cael eu cynnal yno hefyd, ac ymgyrch bosteri Tania Bruguera mewn amrywiol leoliadau yng nghanol y ddinas. Nid gloddest o edrych ar waith celf ydyw, lle yr ydych yn cofio prin ddau neu dri o ddarnau ar ôl i chi adael, gyda'r gweddill yn gymysgedd gyffredinol o ddelweddau gwasgaredig yn eich pen. Mae Artes Mundi yn eich gwahodd i gymryd eich amser, edrych yn fanwl a gwneud lle yn eich meddwl i bwyso a mesur ystyr y gwaith. Dyna chwa o awyr iach mewn biennale!
Mae ffocws Artes Mundi ar y cyflwr dynol yn mynnu ein bod yn ymroi mwy i'r gwaith sy'n cael ei arddangos nag y byddem, dyweder, yn Fenis, Berlin neu Istanbul, lle mae gweithiau celf yn cystadlu â'r lleoliad yn ogystal â rhwydweithio ym myd celf - nid wyf am danbrisio Caerdydd yn hyn o beth, ond mae'r cyflwyniad tawelach yn gydnaws â'r deunydd. Nid ydych am fod yn yfed gwin ac yn hel clecs am y trosiant staff yn lle bynnag tra byddwch yn sefyll wrth ymyl 32 years...gan Teresa Margolles, sef darn o lawr teils lle y cafodd yr artist Luis Miguel Suro ei lofruddio.
Mae myfyrdod dwys Margolles ar farwolaeth a thrais yn rymus tu hwnt. Yn wir, bu'n rhaid i mi adael yr ystafell ar ôl crwydro i mewn yn ddifeddwl a gwisgo'r clustffonau a oedd yn chwarae sŵn toriad cyntaf yn ystod awtopsi. Roedd bod yn yr ystafell honno gyda'i gwaith hi'n gwneud i mi deimlo mai marwolaeth a thrais oedd yr unig gyflyrau dynol, rhywbeth sy'n anodd ei osgoi tra bydd y rhyfel cartref yn Syria yn parhau'n ddi-ball.
Mae Free Fotolab Phil Collins yn yr ystafell y tu ôl i waith Margolles, yn dipyn o wrthgyferbyniad. Mae'r prosiect parhaus yn darparu gwasanaeth datblygu ffilmiau am ddim i bobl yn gyfnewid am ddefnyddio eu lluniau. Caiff y delweddau eu harddangos drwy daflunydd sleidiau sydd bellach yn hen ffasiwn. Maent yn rhoi cipolwg ar hap ar fywydau dieithriaid ac maent yn wych o anniddorol ac yn gyfareddol ar yr un pryd. Mae cyffredinolrwydd y delweddau yn ingol, gan ein hatgoffa ni, y gwylwyr, pa mor gyffredin yw pob un ohonom fel bodau dynol hyd yn oed wrth i ni geisio bod yn wahanol. Mae'n gysur mewn rhyw fath o ffordd 'Teulu Dyn'.
Artes Mundi yw'r gystadleuaeth gelf a chanddi'r wobr fwyaf yn y DU, sef £40,000. Caiff y wobr ei chyflwyno ar 29 Tachwedd, ond ni chaiff enw'r enillydd ei ddatgelu tan i'r arddangosfa ddod i ben. Mae saith o artistiaid wedi'u henwebu ar gyfer y wobr sylweddol hon - ymuna Miriam Bäckström, Tania Bruguera, Sheela Gowda, Darius Mikšys ac Apolonija Šusteršic â Teresa Margolles a Phil Collins. Caiff y rhestr fer ei llunio o alwad agored am enwebiadau, sy'n golygu y gall unrhyw un enwebu artist i gael ei ystyried. Mae'n broses ddethol wahanol, yn fwy felly oherwydd ansawdd uchel y gwaith. Eleni, cynghorodd Artes Mundi ei churaduron, Anders Kreuger a Sofía Henández Chong Cuy, i lunio eu rhestr fer ar sail enwebiadau gan 'y cyhoedd' - dull sy'n arwain at benderfyniadau anarferol o anturus ynghylch canlyniad gwobr mor sylweddol. Mae'n destament i awydd y biennale i fynd y dorri hualau byd celf yr UD/DU a'r farchnad gelf gyfalafol fyd-eang, i gyflwyno'r gwaith mewn cyd-destun ehangach.
Peidiwch â cholli Artes Mundi 5. Mae ystod amrywiol a chymhellol o waith yma sy'n ymdrin â'r 'cyflwr dynol' mewn ystod o ffyrdd annisgwyl. Dyma un o'r arddangosfeydd mwyaf teimladwy i mi ei gweld ers tro byd, sy'n eich atgoffa y dylai celf wneud i chi deimlo yn ogystal â meddwl.